Ddwy flynedd yn ôl, ces i flwyddyn sabothol o fy rôl addysgu mewn ysgol gynradd i ddysgu Cymraeg efo Phrifysgol Bangor.
Dysgais i Gymraeg gartref yn ystod y cyfnod cloi ac yn ein Canolfan y Gymraeg ardderchog yn Llanelwy.
Nawr, dw i’n falch o allu defnyddio fy Nghymraeg ar y stepen drws ac yn siambr y cyngor.
Dw i’n gefnogol iawn i uchelgais Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn gweithio ar gyflawni hyn fel Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Ddinbych.
Dw i’n falch o fyw yng Nghymru ac yn siarad ein hiaith.
Bydd yn bwysig i’n AS Gogledd Clwyd allu siarad Cymraeg a byddaf yn parhau i ddysgu a thyfu fel siaradwr Cymraeg newydd.
Mae angen AS Llafur ar Ogledd Clwyd. Mae addewidion gwag y Torïaid wedi bod yn atseinio’n llawer rhy hir ac mae ein cymunedau wedi syrffedu. I ennill, mae angen ymgeisydd arnom sydd â phroffil lleol hirsefydlog a’r brwdfrydedd, yr angerdd a’r gallu sicr i droi Gogledd Clwyd yn goch a’i gadw felly. Fy enw i yw Gill German a fi yw’r ymgeisydd honno.
Mae’r ardal hon yn rhan o bwy ydw i. Cefais fy magu yma, dyma lle magais fy mhlant a dyma lle rwy’n byw fy mywyd. Roeddwn yn athrawes leol am flynyddoedd lawer a sbardunwyd fy nhaith i mewn i’r byd gwleidyddol gan yr anghydraddoldeb a welais yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn yr ystafell ddosbarth. Yn fy swydd fel Swyddog Datblygu sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru ar brosiect Llywodraeth Cymru i ymdrin ag effaith tlodi ar addysg, daeth y darlun hwnnw’n amlycach fyth.
O ganlyniad i’r profiad personol hwnnw a gefais o effeithiau niweidiol y polisïau llym sydd gan San Steffan, dechreuais fynd allan i ymgyrchu am yr hyn sydd gan y blaid Lafur i’w gynnig – tegwch, cyfle a chydraddoldeb– fel y gall pob un ohonom gyflawni ein potensial. Mae hefyd wedi fy arwain i annog cydraddoldeb o fewn y mudiad Llafur drwy gyd-sefydlu Merched Llafur Gogledd Cymru ac, fel undebwr llafur ymroddedig, trefnais ac ymgyrchais fel aelod lleol a chynrychiolydd gweithle i gynrychioli athrawon yn rhan o’r NASUWT am flynyddoedd lawer
Y llynedd, arweiniais yr ymgyrch fuddugol a drodd Gyngor Sir Ddinbych yn goch am y tro cyntaf erioed, gan adfywio fy nghangen a chysylltu â’r gymuned sydd ar stepen y drws a thu hwnt. Nid yn unig y llwyddais i ddod yn Gynghorydd Tref a Sir yn fy ward fy hun lle mae cystadleuaeth drom, a disodli’r deiliaid Torïaidd, ond hefyd llwyddwyd i sicrhau digon o seddi Llafur newydd i arwain Sir Ddinbych a ffurfio cabinet.
Rwy’n hynod o falch o’r ffaith fy mod yn Ddirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros Addysg, Plant a Theuluoedd yn ein Cyngor Sir Ddinbych cyntaf erioed dan arweiniad Llafur ac rwyf wedi mynd ati heb golli munud i roi gwerthoedd Llafur ar waith. Dw i'n defnyddio fy Nghymraeg hefyd fel siaradwr Cymraeg newydd.
Fodd bynnag, mae’n amlwg bod llywodraeth San Steffan yn gafael yn dynn iawn yn y trosolion i wneud newidiadau. Rwyf i fel AS Llafur Gogledd Clwyd eisiau llaw ar y trosolion hynny i’w symud tuag at degwch a chydraddoldeb. Fel aelod balch iawn o Rwydwaith Merched Llafur, rwyf wedi derbyn hyfforddiant estynedig i wneud hynny, yn cynnwys hyfforddiant rhaglen Women in Leadership Jo Cox.
Rwyf wedi sicrhau mai un o nodweddion amlwg fy ngwaith yw fy mod yn gwrando ar y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma, ar draws ein cymunedau a threfi arfordirol a gwledig ac, fel AS, byddaf yn gwneud yn union yr un peth, ac yn aros yma i’n cynrychioli ni orau yn San Steffan.
O ran cael yr AS Llafur yr ydym ei angen, gwn y gallaf innau ateb y gofyniad hwnnw. Mae gen i’r proffil a’r hanes sicr i ddeall a chreu cysylltiad â’n pleidleiswyr yma – o’r Rhyl i Landrillo yn Rhos, o Fae Colwyn i Ddinbych, o Abergele i Rhuddlan – o’r diwrnod cyntaf un. Bydd hynny, ynghyd â’m sgiliau ymgyrchu cadarn, yn ein gwneud yn amhosibl ein curo.
Let’s turn Clwyd North red together by selecting me, Gill German, to be our winning Labour candidate and build a better future together.
Gadewch i ni droi Gogledd Clwyd yn goch gyda'n gilydd ac adeiladu dyfodol gwell gyda'n gilydd.
Cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd cyn yr amser cyflwyno swyddogol
Buddsoddiad mawr mewn cyfleusterau gofal plant a chynnydd yn lleoedd gofal plant am ddim Dechrau’n Deg, gan ddarparu addysg blynyddoedd cynnar o safon a chefnogi rhieni sy’n gweithio neu’n hyfforddi
Canolfan ieuenctid newydd sbon a gwasanaethau ieuenctid allanol newydd i’n cymunedau gwledig